Rydym yn ddiolchgar am y gwahoddiad i gyfrannu at y drafodaeth banel ar ddiogelu enwau lleoedd Cymru.
Beth yw’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol?
Mynegai o enwau ar gyfer lleoliadau daearyddol adnabyddadwy wedi’u casglu o amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol drwy nifer o wahanol brosiectau yw’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru. Mae’r Rhestr wedi’i seilio ar ymchwil a wnaed eisoes i enwau lleoedd ac mae’n cynnwys y gwahanol enwau a sillafiadau a ddefnyddiwyd i ddynodi aneddiadau, adeiladau, caeau a nodweddion tirweddol yng Nghymru. Rhestr fyw yw hon a fydd yn tyfu a datblygu yn sgil ymchwil pellach.
Gan gydnabod pwysigrwydd enwau lleoedd hanesyddol i hanes a diwylliant Cymru, cynhwysodd Llywodraeth Cymru ddarpariaeth ar gyfer rhestr statudol o enwau lleoedd hanesyddol yn Neddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016. Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn llunio ac yn cynnal y Rhestr ar ran Gweinidogion Cymru.
Beth yw pwrpas y Rhestr?
Pwrpas y Rhestr yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o dreftadaeth gyfoethog Cymru o ran ei henwau lleoedd ac annog pobl i barhau i’w defnyddio oherwydd eu pwysigrwydd hanesyddol.
Mae’r Rhestr ar gael am ddim ar-lein a thrwy’r cofnodion amgylchedd hanesyddol, ac yn gofnod datblygol o wybodaeth awdurdodol am enwau lleoedd hanesyddol a all gael ei ddefnyddio i:
· helpu’r cyhoedd i ddysgu am hanes eu cymunedau;
· cynorthwyo ymchwil academaidd; a
· llywio penderfyniadau ar reoli’r amgylchedd hanesyddol.
Disgwylir y bydd Awdurdodau Lleol, Awdurdodau Parc Cenedlaethol a Chyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio’r Rhestr wrth wneud penderfyniad ar enwi neu ailenwi strydoedd ac adeiladau. Mae’r arweiniad statudol, Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol: Llunio a Defnyddio, yn nodi sut y dylai’r cyrff cyhoeddus hyn ddefnyddio’r Rhestr wrth gyflawni eu swyddogaethau.
Sut y gellir defnyddio’r Rhestr?
Adnodd a grëwyd at ddefnydd y cyhoedd a phobl broffesiynol fel ei gilydd yw’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru. Mae hi’n:
· Gwefan ddwyieithog, sy’n caniatáu chwilio wedi’i seilio ar destun a mapiau. Mae defnyddwyr y wefan yn cael eu hannog i wella’r Rhestr drwy gynnig sylwadau ar enwau lleoedd, megis amrywiadau sillafu, enwau gwahanol neu awgrymiadau ar gyfer cywiriadau. Mae rhwydd hynt iddynt lwytho canlyniadau eu chwiliadau i lawr (gall hyd at 4,000 o gofnodion geo-leoledig gael eu llwytho i lawr yn ystod pob chwiliad).
· Gwasanaeth Nodweddion Gwe (WFS) byw, y gellir ei gyrchu o fewn pob cofnod amgylchedd hanesyddol, awdurdod cynllunio lleol ac adran y llywodraeth yng Nghymru.
I gael cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r wefan hon, ewch i’r tudalennau Cymorth.
Sut mae’r Rhestr wedi cael ei rhoi wrth ei gilydd?
Daw’r enwau lleoedd a geir yn y Rhestr adeg ei lansio o dair prif ffynhonnell:
· enwau a gasglwyd gan wirfoddolwyr ar-lein o fapiau Arolwg Ordnans hanesyddol drwy brosiect Cymru1900Wales;
· enwau a gasglwyd gan wirfoddolwyr ar-lein o raniadau degwm drwy brosiect Cynefin; ac
· enwau a gasglwyd gan Dr David Parsons yn ei ymchwil ar ran y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd i ‘Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru’.
Ers cyhoeddi’r Rhestr ym mis Mai 2017 mae’r gwaith arni wedi parhau, ac mae’r enwau lleoedd ar y Rhestr yn awr yn dod o fwy na 1000 o wahanol ffynonellau a, dros amser, bydd llawer mwy yn cael eu hychwanegu wrth i waith ymchwil pellach a phrosiectau eraill gael eu cwblhau.
Staff
Mae aelod staff amser-llawn yn gyfrifol am curaduro’r Rhestr ac mae ar gael i ateb ymholiadau. Mae ein Swyddog Enwau Lleoedd Hanesyddol, Dr James January McCann, hefyd yn brysur iawn yn annog pobl i ddefnyddio a chyfrannu at y Rhestr drwy ei raglen o sgyrsiau a darlithiau gyda grwpiau a chymdeithasau lleol ar hyd a lled Cymru.
Defnyddio’r Rhestr
Ceir ar hyn o bryd (Hydref 2019) 664,551 o Enwau Cofnodedig ar y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru. Yn ystod mis Medi 2019, cynhaliodd 5,450 o ddefnyddwyr 6,642 o sesiynau ar y wefan ac edrychwyd ar 15,676 o dudalennau (182 o ddefnyddwyr y dydd a 221 o sesiynau y dydd ar gyfartaledd). Nid yw’r ffigurau hyn yn cymryd i ystyriaeth ddefnydd awdurdodau cynllunio o’r Rhestr: byddant yn cyrchu’r data drwy eu Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol corfforaethol ar ffurf Gwasanaeth Nodweddion Gwe byw – mae’r cyfleuster hwn yn caniatáu i unrhyw ddefnyddiwr weld y Rhestr ar y cyd â data daearyddol eraill.
Tynnwyd sylw Swyddogion Enwi a Rhifo Strydoedd yr Awdurdodau Lleol at y wefan a’r Gwasanaeth Nodweddion Gwe, ynghyd ag arweiniad statudol Cadw, i’w helpu i wneud penderfyniadau pan fyddant yn enwi ac ailenwi strydoedd, adeiladau a lleoedd eraill. Mae ein Swyddog Enwau Lleoedd wedi derbyn ymholiadau uniongyrchol gan nifer o Swyddogion Enwi a Rhifo Strydoedd sydd wedi gofyn iddo am gyngor ar ddewis enwau priodol ar gyfer datblygiadau newydd ac mae ef hefyd wedi gohebu â datblygwyr yn uniongyrchol i gynnig arweiniad ar enwau lleoedd sy’n hanesyddol berthnasol. Byddwn hefyd yn derbyn ymholiadau a sylwadau rheolaidd gan y cyhoedd.
Cynlluniau at y dyfodol
Bydd y Comisiwn Brenhinol yn cynnal ac yn gwella’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru drwy:
· creu cofnodion enwau lleoedd hanesyddol newydd o ddata a gesglir o amryw ffynonellau;
· adolygu a newid y cofnodion presennol i gywiro gwallau trawsysgrifol a gwallau eraill;
· cydlynu cyfnewid data am enwau lleoedd rhwng sefydliadau;
· ymateb i ymholiadau am gofnodion ar y Rhestr; a
· chynhyrchu erthyglau a threfnu gweithgareddau estyn-allan sy’n hyrwyddo’r Rhestr ac yn cynyddu dealltwriaeth o werth enwau lleoedd hanesyddol Cymru.
Hoffem weithio’n nes â Chymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a bod yn ystorfa barhaol sy’n hygyrch i’r cyhoedd ar gyfer y data gwerthfawr maent wedi’u casglu, gan sicrhau y rhoddir ystyriaeth i’r data hyn pan fydd Awdurdodau Cynllunio’n gwneud penderfyniadau am ddatblygiadau newydd neu geisiadau i newid enw, a bod y data’n cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl.
Byddem hefyd yn awyddus i gynorthwyo’r Gymdeithas gyda chynllun cyllid torfol yn y dyfodol i gasglu mwy o gofnodion am enwau lleoedd, y byddid yn cyhoeddi metadata sylfaenol ohono drwy gyfrwng y Rhestr.
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
21 Hydref 2019